Award-winning Online Career Coaching for Graduates and Professionals | Career Alchemy
  • HOME
  • ABOUT
    • OUR PEOPLE
    • TESTIMONIALS
    • NEWS
  • RESOURCES
    • CAREER COACHING
    • OUR INSPiRED FRAMEWORK
    • CHANGE YOUR STORY THE BOOK
    • CHANGE YOUR STORY PODCAST >
      • EPISODE SHOWNOTES
    • BLOG
  • Services
    • FOR PROFESSIONALS >
      • RE-INSPIRED PROFESSIONAL
      • FACING REDUNDANCY
      • CATALYST 121 CAREER COACHING
      • IGNITE YOUR APPLICATIONS
      • SHiNE AT INTERVIEW
    • FOR GRADUATES >
      • INSPIRED GRADUATE
      • IGNITE YOUR APPLICATIONS
      • SHiNE AT INTERVIEW
      • CATALYST
  • Store
  • CONTACT

Yr allwedd i ddyfodol disglair

Fel y gwyddoch, mae'r Brifysgol yn wynebu cyfnod heriol ac mae hynny'n golygu ansicrwydd.

Mae gennym brofiad personol o fod mewn swydd yn berygl ac yn gwybod pa mor ofidus gall y cyfnod hwn fod.

​Rydyn ni hefyd yn gwybod mai'r gamp i oroesi a ffynnu yn ystod cyfnod o newid yw deall sut mae'r gêm recriwtio yn cael ei chwarae fel bod modd i chi ddatgloi'r cyfleoedd rydych chi’n eu dymuno.

P'un a yw'n flynyddoedd ers i chi wneud cais am unrhyw beth a’ch bod am adnewyddu eich sgiliau gwneud cais a chwilio am swydd, neu os oes angen help arnoch i roi hwb i'ch sgiliau cyfweliad fel bod modd i chi ddisgleirio a chael eich rôl nesaf, rydym yn cynnal cyrsiau ar gampws y Brifysgol i’ch helpu.
​

Gwynebu ansicrwydd swydd:
​Gweithdai Gwneud Ceisiadau Effeithiol am Swydd 

Picture
Wedi'i gynllunio ar gyfer unrhyw un sydd angen datblygu neu adnewyddu eu sgiliau ceisiadau ac ysgrifennu CV, bydd y gweithdy 2.5 awr hwn, gyda thaflenni, yn eich galluogi i ddeall sut i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer swyddi perthnasol oherwydd eich bod yn:
  • Rheoli'ch cyflwr emosiynol er gwaethaf cyd-destun anodd
  • Gwybod beth sydd gennych i'w gynnig o ran agwedd, sgiliau, gwybodaeth a phrofiad
  • Deall sut i feddwl fel recriwtwr a darllen hysbysebion swyddi yn effeithiol
  • Gwybod ble i chwilio am swyddi a chreu cyfleoedd unigryw gan gynnwys gydag asiantaethau
  • Gallu cyfathrebu'ch rhinweddau gydag effaith ar CV neu ffurflen gais​
    ​

Wynebu ansicrwydd ynghylch parhad swydd:
​Gweithdai Gwneud Cyfweliad gyda Hyder

Picture
Mae'r gweithdy 2.5 awr hwn, gyda thaflen, ar gyfer unrhyw un sydd angen deall sut i baratoi'n effeithiol a bod yn llwyddiannus mewn cyfweliadau. Byddwch yn disgleirio yn y cyfweliad oherwydd eich bod chi’n:
  • Deall sut mae'r broses yn gweithio
  • Gwybod sut i nodi cwestiynau tebygol am y sector, y sefydliad, y rôl a'ch proffil personol
  • Deall sut i strwythuro a chyflwyno'ch atebion yn effeithiol
  • Rheoli'ch ymddygiad a nerfau yn effeithiol gan ddefnyddio ystod o wahanol dechnegau
  • Adeiladu cydberthynas ar lafar gyda'r cyfwelydd

Eich hyfforddwr

Caiff y sesiynau Cymraeg eu cyflwyno gan ein Hyfforddwr Cysylltiol profiadol, Sarah Finnegan Dehn, cyn gyfarwyddwr Gyrfa Cymru.

Caiff y sesiynau Saesneg eu hwyluso gan Carolyn Parry, Hyfforddwr Gyrfa'r Flwyddyn y llynedd, a chyn aelod o staff y Brifysgol sydd â phrofiad uniongyrchol a gyda chleientiaid o'r broses ailstrwythuro ac wedi gweithio gyda miloedd o gleientiaid i’w cynorthwyo i greu bywydau gwaith a gyrfaoedd llwyddiannus.
​

Dyma beth sydd gan ein cleientiaid i’w ddweud

"Rydych chi wedi gwneud y syniad diflas o chwilio am swydd i swnio’n apelgar ac yn gyraeddadwy."
“Gwnaeth i mi deimlo'n fwy cadarnhaol am y dyfodol.".
"Sgiliau awyrgylch a chyflwyno gwych a chyfeillgar." 
"Sesiwn wirioneddol ddefnyddiol - llawer i feddwl amdano!"
 "Cwrs gwych, rwy’n teimlo'n llawer mwy hyderus a chadarnhaol ynghylch swyddi newydd posib. Roedd y deunydd dysgu yn ddefnyddiol iawn."

Dyddiadau a sut i gadw lle

Cynhelir sesiynau gwahanol yn ystod mis Ebrill a Mai 2018. Am fanylion, dewiswch y gweithdy yr hoffech ei fynychu a dewiswch eich dyddiad o'r rhestr. Mae croeso i chi gadw lle ar y naill weithdy neu’r llall, neu ar y ddau. 

Sylwer: mae'r gweithdai hyn ar agor i'r holl staff.
© 2015  - 2025 INSPiRARE Limited.
All rights reserved.
Ts & Cs
Your Data
Privacy Policy
Cookie Policy
Contact Us
  • HOME
  • ABOUT
    • OUR PEOPLE
    • TESTIMONIALS
    • NEWS
  • RESOURCES
    • CAREER COACHING
    • OUR INSPiRED FRAMEWORK
    • CHANGE YOUR STORY THE BOOK
    • CHANGE YOUR STORY PODCAST >
      • EPISODE SHOWNOTES
    • BLOG
  • Services
    • FOR PROFESSIONALS >
      • RE-INSPIRED PROFESSIONAL
      • FACING REDUNDANCY
      • CATALYST 121 CAREER COACHING
      • IGNITE YOUR APPLICATIONS
      • SHiNE AT INTERVIEW
    • FOR GRADUATES >
      • INSPIRED GRADUATE
      • IGNITE YOUR APPLICATIONS
      • SHiNE AT INTERVIEW
      • CATALYST
  • Store
  • CONTACT